Summary: | Y mae’r traethawd yn dechrau trwy holi a oes rhaniad rhwng ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu academaidd, gan ddadlau mai creadigrwydd yw hanfod y ddau fath o ysgrifennu, a bod agwedd ddisgybledig yr un mor angenrheidiol i’r ddau fath o gyfansoddi. Ymdrinnir wedyn â rôl y cyfryngau cymdeithasol yn y broses greadigol, gan gyfeirio yn benodol at flog a grëwyd gennyf i gyd-fynd â chyfansoddi dwy nofel y portffolio, a’r thesis. Cyfeirir at flogiau eraill yn Gymraeg sydd yn ymdrin ag ysgrifennu creadigol, gan geisio mesur i ba raddau y mae modd i gyfryngau megis blog a thrydariadau ymwneud yn unig â’r broses o greu. Yr wyf yn mantoli pa mor llwyddiannus fu’r blog, gan grybwyll fy nisgwyliadau a hefyd fy siomedigaethau. Y mae’r drydedd bennod yn olrhain fy hanes yn dechrau ysgrifennu’n greadigol; crybwyllaf gyhoeddiadau cynnar, a gwerth yr arfer o ysgrifennu yn gyson ac yn rheolaidd, cyn mynd ymlaen at gefndir creu nofel gyntaf y portffolio, Dewch at eich Gilydd, a ddeilliodd o’m profiadau fel ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Ceir yma hanes creu’r gwahanol gymeriadau, a’m bwriadau wrth geisio darlunio bywyd gwleidyddol cyfoes Cymru. Y mae a wnelo’r bennod nesaf â hynt Dewch et eich Gilydd pan anfonais ran o’r nofel, cyn ei chwblhau, at wasg; fy ymateb i’r hyn a ddigwyddodd yn sgil hynny, ac ymdriniaeth o’r hyn a olygir wrth nofelau ‘gwleidyddol’. Yna, rhoddaf hanes cwblhau’r nofel a’i chyhoeddi. Ymdrinnir ym Mhennod 5 â phroblem sydd yn dod i ran nifer o ysgrifenwyr creadigol, sef methiant i fwrw ymlaen â gwaith, neu’r hyn a elwir yn ‘floc’. Yn ogystal â disgrifio’r cyflwr, yr wyf yn bwrw golwg hefyd ar ymdriniaethau gan eraill ohono, gwahanol strategaethau a gynigir i oresgyn yr anhawster, a’r hyn oedd yn fuddiol pan ddigwyddodd y peth i mi, gan dynnu sylw yn arbennig at werth a phwysigrwydd cymuned o ysgrifenwyr a all drafod hyn yn ddeallus . Ail nofel y portffolio, Tir Llwyd, yw testun Pennod 6, lle disgrifir eto y broses o lunio cymeriadau, ond hefyd lle’r wyf yn ymdrin â’r hyn oedd yn wahanol yn y broses o ysgrifennu’n ail o gymharu â’r gyntaf; y modd y gwelwn dirwedd yr ail nofel yn gliriach yn fy meddwl, ac mai ffin a therfynau amser oedd gliriaf yn Dewch at eich Gilydd. Mantoli’r gwahaniaethau hyn a wnaf hefyd yn y Casgliadau, gan bwysleisio eto mor denau yw’r ffin (os oes un o gwbl) rhwng y ‘creadigol’ a’r ‘academaidd’ mewn ysgrifennu, a thynnu sylw at werth disgyblaeth cymuned o ysgrifenwyr i’r sawl sydd yn mentro i’r maes hwn.
|