Y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg : gyda golwg ar waith beirniadol Saunders Lewis, R.M. Jones ac Alan Llwyd

Archwilir y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg yn y traethawd hwn gan ganolbwyntio ar waith tri beimiad llenyddol, Saunders Lewis, R. M. Jones ac Alan Llwyd. Y maent yn olyniaeth o feistri-feimiaid a bwysleisiodd ffurf ganonaidd llenyddiaeth Gymraeg. Ceir chwe phennod ynghyd a chasgliadau yn y traet...

Full description

Bibliographic Details
Main Author: Hallam, Tudur
Published: Swansea University 2005
Online Access:https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.751971
Description
Summary:Archwilir y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg yn y traethawd hwn gan ganolbwyntio ar waith tri beimiad llenyddol, Saunders Lewis, R. M. Jones ac Alan Llwyd. Y maent yn olyniaeth o feistri-feimiaid a bwysleisiodd ffurf ganonaidd llenyddiaeth Gymraeg. Ceir chwe phennod ynghyd a chasgliadau yn y traethawd hwn. Paratoi'r ffordd ar gyfer astudio gwaith y tri beimiad y mae'r tair pennod gyntaf. Y mae'r bennod gyntaf yn un rhagymadroddol ac yn canolbwyntio ar gymeriad yr awdur, gan y bydd syniadau beimiaid ynghylch yr awdur yn effeithio ar eu syniadau ynghylch y canon. Y mae'r ail bennod yn archwilio'r gymhariaeth rhwng canon y Testament Newydd a chanon llenyddol. Nodir i ganon y Testament Newydd ddatblygu law yn Haw a phrofiadau darllen y Cristnogion cynnar fel modd o gadamhau eu ffydd yng Nghrist a'u diffmio'n garfan o bobl. Y mae'r drydedd bennod yn cyflwyno egwyddor lywodraethol y traethawd hwn, sef perthynas y darllenydd a'i amgylchfyd a'i duedd i ddarllen testunau o du sefyllfa arbennig. Nodir bod y modd y canoneiddiwyd gwaith, person a syniadau Saunders Lewis ynghylch 'y traddodiad' yn ddylanwad sefyllfaol o'r fath ar y traethawd hwn. Astudiaeth o waith beirniadol Saunders Lewis yw'r bennod nesaf. Dadleuir iddo roi ffurf ganonaidd i lenyddiaeth Gymraeg, a chyflwyno'r canon llenyddol i genedl a oedd yn darllen llai yn ei Beibl, a hynny'n rhannol yn sgil dylanwad uwchfeimiadaeth. Astudiaeth o waith beimiadol R. M. Jones yw'r bennod nesaf. Gwelir iddo ddefnyddio theori i amddiffyn y canon, ond bod ei ddiffiniad Cristnogol o'r canon yn golygu na all pob darllenydd Cymraeg ei goleddu. Astudir ei waith yntau mewn perthynas a'i amgylchfyd a'i oes. Astudiaeth o waith beimiadol Alan Llwyd yw'r bennod olaf Gwelir iddo anwybyddu theori er mwyn amddiffyn y canon, a bod tebygrwydd yn hyn o beth rhwng agwedd gwrthfeimiaid crefyddol 1890-1914 a gwrth-theoriwyr cyfoes. Cyflwynir casgliadau mewn pennod glo.